Byddwch chi’n cofnodi derbynebau ac anfonebau bob yn dipyn ac yn rheolaidd
Er mwyn gwneud hyn, byddwch chi’n defnyddio meddalwedd gyfrifyddu neu lyfrifeg gydnabyddedig sy’n gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm – er enghraifft, ap ar eich ffôn neu’ch gliniadur.
Bydd hyn yn gwneud gweinyddu treth yn haws yn y pen draw gan y gall meddalwedd MTD gyfrif anfonebau i chi.
Anfon diweddariadau chwarterol Mae hon yn ffordd gyflym o roi gwybod i CThEF am eich incwm a’ch treuliau o waith fel unig fasnachwr ac eiddo – yn syth o’ch meddalwedd, bob tri mis.
Dyw’r diweddariadau chwarterol hyn ddim yn ffurflenni treth
Crynodebau syml ydyn nhw o sut mae’ch busnes yn dod yn ei flaen, mewn pedwar pwt llai o faint, wedi’u tynnu o’ch cofnodion.
Os ydych chi’n cofnodi gwybodaeth wrth i chi fynd yn eich blaen, bydd diweddariadau chwarterol yn fater o wasgu botwm yn unig.
Byddwch yn gallu gweld llif arian cyfredol, cywiro unrhyw wallau a gweld amcangyfrif o’ch bil treth ar ôl anfon pob diweddariad. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio busnes.
Fyddwch chi ddim yn talu pedwar bil treth bob blwyddyn
Bydd y dyddiad y bydd eich treth yn ddyledus yn dal i fod yn 31 Ionawr.
Byddwch chi’n ei thalu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif treth ar-lein ar GOV.UK neu drwy ap CThEF – yn union fel rydych chi’n ei wneud nawr.
But you’ll be able to see your predicted tax bill all year round, removing any January surprises.
Pryd byddwch chi’n anfon eich diweddariad chwarterol
Dyma’r dyddiadau cau a chyfnodau diweddaru safonol, sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae’ch dyddiadau cau yr un peth p’un a ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru safonol neu galendr.
| Cyfnod diweddaru | Dyddiad cau ar gyfer diweddaru |
| 6 Ebrill i 5 Gorffennaf | 7 Awst |
| 6 Ebrill i 5 Hydref | 7 Tachwedd |
| 6 Ebrill i 5 Ionawr | 7 Chwefror |
| 6 Ebrill i 5 Ebrill | 7 Mai |
Os yw’n well gennych chi fod eich cyfnodau diweddaru yn cyd-fynd â’r flwyddyn galendr, gallwch chi ddewis hynny.
Byddwch chi’n dal i gyflwyno Ffurflen Dreth Gall meddalwedd gadw cyfrif o’r flwyddyn gyfan gan ddefnyddio’ch diweddariadau chwarterol. Bydd yn tynnu’r rhain i mewn i’ch Ffurflen Dreth ar eich rhan.
Byddwch chi’n gwirio bod popeth yn edrych yn gywir
Byddwch chi’n dal i wneud unrhyw addasiadau cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, fel cynnwys ffynonellau eraill o incwm – er enghraifft, llog banc neu bensiynau. A gallwch chi hawlio rhyddhadau treth os ydych chi’n gymwys.
Pob dim yn iawn? Yna, byddwch chi’n tapio cyflwyno erbyn 31 Ionawr
Bydd hyn yn anfon eich Ffurflen Dreth at CThEF, yn syth o’r feddalwedd. Dyna ni.
Bydd CThEF yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu’ch bil treth
Fydd y system newydd ddim yn newid y ffordd rydych chi’n talu Treth Incwm na’r dyddiadau pan fydd angen i chi dalu’r dreth hon.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, bydd yn dal i fod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol yn y ffordd arferol
Mae hyn oherwydd fyddwch chi ddim wedi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.
Gallwch chi fewngofnodi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF. Bydd yn dal i fod angen i chi wneud hyn erbyn 31 Ionawr.
Meddyliwch am hwn fel cyfnod pontio i’r ffordd newydd o ddelio â phethau
Erbyn y mis Ionawr canlynol, byddwch chi’n gallu gwneud popeth yn syth o’ch meddalwedd. Bydd hyn yn gwneud pethau’n symlach yn y hir dymor.

Gweld y diweddaraf am eich llif arian
Sy’n ddefnyddiol i waith cynllunio’r busnes

Dim rhagor o ymbalfalu am dderbynebau coll
Cofnodwch eich derbynebau wrth i chi fynd, yn lle gwneud hynny i gyd ar un tro

Gweld eich bil treth disgwyliedig, drwy gydol y flwyddyn
Hwyl fawr i unrhyw ganfyddiadau annisgwyl ym mis Ionawr

Gwneud tasgau o ran treth yn haws
Gall meddalwedd MTD gyfrifo anfonebau i chi

Cywiro unrhyw wall rydych chi’n sylwi arno wrth i chi fynd
Fel eich bod chi ddim yn gordalu nac yn tandalu treth
Rhowch eich barn
Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.