Skip to main content
Radio sy'n robot gyda’r geiriau "mae treth yn newid" ar flaen y robot.

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Paratoi ar gyfer y ffordd newydd o ddelio â Ffurflenni Treth

Ydych chi’n gweithio i chi’ch hun fel unig fasnachwr neu’n ennill arian o eiddo?

Mae Ffurflenni Treth yn newid – trwy ffordd newydd o gofnodi ac adrodd am eich incwm a’ch treuliau. Yr enw ar hyn yw ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Weithiau, fe welwch chi’r byrfodd ‘MTD ar gyfer Treth Incwm’.

Rydyn ni’n ailstrwythuro’r ffordd rydych chi’n delio â Threth Incwm

A dweud y gwir, dyma’r newid mwyaf ers i CThEF lansio Hunanasesiad fwy na 30 mlynedd yn ôl.

Fyddwch chi ddim yn llenwi’ch Ffurflen Dreth i gyd ar unwaith

Yn lle hynny, fe fyddwch chi’n rhannu’r dasg ar hyd y flwyddyn.

Bydd angen i chi

Defnyddio meddalwedd gydnabyddedig

fel ap ar eich ffôn neu’ch gliniadur i gofnodi incwm a threuliau

Anfon diweddariadau chwarterol

at CThEF o’r feddalwedd hon

Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth


o’r feddalwedd hon erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn

Trosiant dros £50k? Dylech fod wedi cofrestru ar gyfer MTD eisoes

Bod yn barod mewn 3 cham

Sut mae’n gweithio?

Gwelwch drosolwg byr o sut bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid pethau

Perchennog siop gyda llechen yn ei law yn gwenu wrth baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol

Diweddariadau chwarterol

Os yw’ch trosiant yn uwch na £50,000, bydd angen i chi anfon diweddariadau bob chwarter, gweler yr holl ddyddiadau a dyddiadau cau allweddol

Menyw yn edrych ar gamera proffesiynol cyn i Droi Treth yn Ddigidol ddechrau