O 6 Ebrill 2027 ymlaen, masnachwyr unigol a landlordiaid â throsiant uwchlaw £30,000 ddewis meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol sy’n gweithio gyda’r system newydd, fel ap llyfrifeg neu gyfrifyddu ar eich ffôn neu’ch gliniadur.
Mae yna opsiynau ar gyfer meddalwedd sydd am ddim ac am bris
Mae’n lan i chi beth sydd well gennych chi. Byddwch chi’n dewis o restr o ddarparwyr cydnabyddedig. Gallwch chi hyd yn oed defnyddio cyfuniad o wahanol feddalwedd os yw hynny’n well i chi.
Oes gan CThEF feddalwedd ei hun gallaf ei defnyddio at ddiben Troi Treth yn Ddigidol?
Na – rydyn ni’n gweithio’n agos gyda llawer o wahanol ddarparwyr meddalwedd yn lle hynny.
Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis i chi. Mae’r feddalwedd sydd ar gael yn eich helpu i gadw cofnodion digidol o’ch hunangyflogaeth neu incwm o eiddo.
Mae’r rhan fwyaf o gynhyrchion yn cwmpasu popeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys anfon diweddariadau chwarterol a chyflwyno Ffurflenni Treth i CThEF, a gall rhai hefyd gysylltu â chofnodion rydych eisoes yn eu cadw mewn meddalwedd arall.

Yw cadw cofnodion digidol yn newydd i chi?
Mae llawer o feddalwedd yn canolbwyntio’n galed ar fod yn hawdd i’w defnyddio.

Mae rhai apiau’n tynnu sylw at wallau ac yn anfon atgofion
Felly, rydych yn gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf ac ni fyddwch byth yn colli dyddiadau cau pwysig

Ydych chi’n gweithio wrth i chi fynd?
Gallai nodweddion fel sganio derbynebau gan ddefnyddio camera eich ffôn fod o ddefnydd
Dewis pa feddalwedd Troi Treth yn Ddigidol i’w defnyddio
Gwiriwch arweiniad CThEF – mae ganddo restr o’r holl opsiynau o ran meddalwedd sydd ar gael i chi.
Os ydych yn fasnachwr unigol neu’n landlord gyda throsiant dros £30,000, mae angen i chi fod yn barod i ddechrau defnyddio’r feddalwedd o 6 Ebrill 2027 ymlaen.
Paid â phoeni, mae’r holl feddalwedd sydd wedi’i rhestru ar GOV.UK yn addas i’r diben.
Oes yna adnoddau a hyfforddiant i’w cael ar gyfer meddalwedd?
Mae gan bob darparwr meddalwedd eu canllawiau eu hun. Unwaith eich bod chi wedi dewis eich meddalwedd, dylech chi wirio â’r darparwr yn uniongyrchol. Mae gan sawl un fideos, hyfforddiant a chanllawiau cam wrth gam i’ch helpu chi gyda dechrau arni.

Gwell gennych chi aros gyda’r taenlenni neu’r feddalwedd rydych chi’n eu defnyddio’n barod?
Mae hynny’n iawn – bydd angen i chi ddefnyddio rhywbeth o’r enw ‘meddalwedd bontio’. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr y bydd eich taenlenni neu’ch meddalwedd yn gweithio gyda’r system newydd.
Cofiwch, fydd ddim yr un nodweddion â thaenlenni ag sydd gan lawer o apiau llyfrifeg hollgynhwysol. A gall y rhain arbed amser a bod yn haws i’w defnyddio.
Rhowch eich barn
Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.