Skip to main content
Menyw yn edrych ar gamera proffesiynol cyn i Droi Treth yn Ddigidol ddechrau

Diweddariadau chwarterol gyda Troi Treth yn Ddigidol

Sut maent yn gweithio a’r dyddiadau y mae angen i chi eu gwybod

Beth yw diweddariadau chwarterol? 

Crynodebau o incwm a threuliau’ch busnes yw diweddariadau chwarterol. 

Bob 3 mis, mae’ch meddalwedd sy’n cydweddu’n adio’ch cofnodion digidol at ei gilydd i greu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a threuliau. Yna, anfonir y cyfansymiau hyn at CThEF fel diweddariad chwarterol. 

Pwy sydd angen anfon diweddariadau chwarterol? 

Ar ôl cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD), mae angen i chi anfon diweddariad chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm sydd gennych, gan gynnwys:

  • incwm o eiddo  
  • hunangyflogaeth 

Sut ydw i’n anfon diweddariadau chwarterol? 

Rydych yn anfon diweddariadau chwarterol i CThEF yn uniongyrchol drwy’r feddalwedd MTD o’ch dewis. 

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi anfon diweddariad? 

Ar ôl anfon diweddariad, byddwch yn gallu gweld amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer eich hunangyflogaeth ac incwm eiddo yn eich meddalwedd neu yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF. 

Dyma amserlen o ran MTD ar gyfer Treth Incwm ar gyfer trosiant uwchlaw £50,000

Felly, rydych yn gwybod beth sydd angen i chi ei wneud a phryd.  

DyddiadDigwyddiad
6 Ebrill 2026Dyddiad dechrau ar gyfer cadw cofnodion gan ddefnyddio meddalwedd MTD ar gyfer Treth Incwm
7 Awst 2026 Dyddiad cau ar gyfer anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf
7 Tachwedd 2026 Dyddiad cau ar gyfer anfon eich ail ddiweddariad chwarterol
31 Ionawr 2027Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y ffordd arferol ar gyfer 2025 i 2026
7 Chwefror 2027 Dyddiad cau ar gyfer anfon eich trydydd diweddariad chwarterol
7 Mai 2027Dyddiad cau ar gyfer anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol


7 Awst 2027Dyddiad cau ar gyfer anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2027 i 2028
7 Tachwedd 2027Dyddiad cau ar gyfer anfon eich ail ddiweddariad chwarterol
31 Ionawr 2028Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn syth o’ch meddalwedd MTD ar gyfer Treth Incwm ar gyfer 2026 i 2027
7 Chwefror 2028Dyddiad cau ar gyfer anfon eich trydydd diweddariad chwarterol
7 Mai 2028Dyddiad cau ar gyfer anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol

Rhowch eich barn

Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.