Skip to main content
Masnachwr yn dal cynnyrch cyn i Droi Treth yn Ddigidol ddechrau

Cwestiynau Cyffredin ynghylch Troi Treth yn Ddigidol

Mae’n siŵr bod gennych chi ambell gwestiwn

Pam mae’r ffordd rydych chi’n delio â threth yn newid?

Mae’n rhan o nod Llywodraeth y DU i foderneiddio’r system dreth a chau’r bwlch treth – sef y gwahaniaeth rhwng y dreth ddylai fod wedi’i thalu a’r bobl sydd wedi talu mewn gwirionedd.

Sut mae CThEF yn penderfynu ar fy nyddiad cychwyn?

Dim ond cyfanswm eich trosiant o hunangyflogaeth ac eiddo, wedi’i roi at ei gilydd ar eich Ffurflen Dreth ddiweddaraf, y byddwn ni’n ei ystyried.

Eich trosiant yw’r swm o arian rydych chi’n ei ennill cyn tynnu unrhyw dreuliau neu dalu treth. Weithiau, yr enw ar hyn yw ‘incwm gros’.

Oes gennych chi fathau eraill o incwm? Fyddwn ni ddim yn cynnwys y rheini. A dydyn nhw ddim yn cyfrannu at y symiau sydd i’w gweld uchod.

Beth os bydd fy nhrosiant yn cyrraedd un o’r symiau trothwy? 

Bydd CThEF yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau bod angen i chi baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol. 

Dim ond newydd ddechrau gweithio i fi fy hun neu roi eiddo ar osod ydw i – oes angen i fi wneud hyn?

Ddim yn syth. Yn gyntaf, byddwch chi’n gwneud un Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Wedyn, bydd CThEF yn gwirio’ch trosiant. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd angen i chi gofrestru.

Beth os ydw i’n ennill arian o weithio i fi fy hun yn ogystal ag ennill arian o eiddo?

Cadwch gofnodion ar wahân ar gyfer y ddau. Byddwch chi’n anfon diweddariadau chwarterol ar wahân ar gyfer pob math o incwm.

Yna, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn un Ffurflen Dreth.

Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wedi’i oedi o’r blaen – fydd hyn wir yn digwydd?

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eto ei bod hi’n ymrwymo i gyflawni’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Oes angen i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio hwn hefyd? 

Nac oes. Ond efallai eich bod chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn barod os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW.

A oes rhaid i bartneriaethau ddefnyddio hyn?

Nid eto. Bydd angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Ond am y tro, byddwch chi’n parhau i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Byddwn yn nodi’r amserlen ar gyfer pryd y bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r gwasanaeth newydd yn ddiweddarach.

Beth os ydw i’n bartner mewn busnes?

Os yw cyfanswm eich trosiant o hunangyflogaeth ac incwm o eiddo yn mynd uwchlaw’r trothwyon cymhwysol, yna bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth newydd. Byddwch yn rhoi gwybod am incwm eich partner drwy’ch meddalwedd sy’n cydweddu cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Dysgwch fwy ar GOV.UK am sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu dyddiad cyflwyno?

Rydyn ni’n cyflwyno cosbau ar sail pwyntiau i wneud pethau’n deg. Os byddwch chi’n methu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, byddwch chi’n cael pwynt cosb. Os cewch chi ormod o bwyntiau, byddwch chi’n gorfod talu dirwy.

Mae nifer y pwyntiau yn dibynnu ar ba ddiweddariadau y mae disgwyl i chi eu hanfon at CThEF bob blwyddyn.

Ni fydd unrhyw gosbau’n berthnasol am gyflwyno diweddariadau chwarterol yn hwyr yn ystod blwyddyn dreth 2026/27. Fodd bynnag, mae angen anfon pob diweddariad chwarterol cyn y gellir cyflwyno’r Ffurflen Dreth.

Dysgwch ragor am gosbau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.  

Rydw i’n defnyddio meddalwedd i gyflwyno fy Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn barod – ydw i’n gallu cadw defnyddio honno?

Efallai. Bydd angen i chi wirio â’ch darparwr meddalwedd i wneud yn siŵr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol.

Os dyw hi ddim am weithio, bydd angen i chi ddechrau defnyddio meddalwedd sydd yn gweithio.

Gallwch chi wirio bod y feddalwedd rydych chi’n ei defnyddio wedi’i chynnwys yn ein rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar GOV.UK

Ydw i’n gallu cael esemptiad?

Dyma’r gwahanol fathau o esemptiadau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:

  • esemptiadau awtomatig – rhoddir y rhain gan CThEF yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym
  • esemptiadau y mae angen i chi wneud cais amdanynt – dylech ddarparu gwybodaeth ychwanegol gyda’ch cais i roi gwybod i ni pam rydych yn esempt

Gall yr esemptiadau hyn naill ai fod:

  • yn barhaol – oni bai bod eich amgylchiadau’n newid
  • dros dro – yn para tan Ebrill 2027 ar y cynharaf

Er enghraifft, gallwch wneud cais am esemptiad os credwch chi eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhesymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol na chyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Mae yna wahanol resymau pam gallai hyn fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi, ond gallai fod oherwydd:

  • bod eich oedran, anabledd, cyflwr iechyd neu’ch lleoliad yn eich rhwystro chi rhag defnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar
  • eich bod chi’n aelod gweithredol o gymdeithas neu urdd grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â defnyddio cyfathrebiadau digidol neu gadw cofnodion digidol

Gallwch ddysgu a allwch wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm – GOV.UK.  

Oes gwir ots am y diweddariadau chwarterol – allai ddatrys popeth trwy fy Ffurflen Dreth?

Mae CThEF yn disgwyl i bawb gymryd gofal rhesymol dros ei gofnodion digidol. Dylai’ch diweddariadau chwarterol, felly, gyd-fynd â’r incwm a’r treuliau ar gyfer pob cyfnod. Gallech chi gael cosb os dydych chi ddim yn cadw cofnodion digidol digonol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu rhywfaint o incwm a threuliau o’r diweddariad chwarterol – oes angen i fi ailanfon y diweddariad hwnnw?

Os ydych yn dod o hyd i wall, neu fod gwybodaeth sydd ar goll o’ch cofnodion digidol, dylech ei gywiro. Caiff ei gynnwys pan fyddwch yn anfon eich diweddariad chwarterol nesaf.

Ble galla i fynd er mwyn datblygu fy sgiliau digidol i fod yn barod am hyn?

Mae gan y Gwasanaethau Gyrfaoedd Cenedlaethol ganllaw am yr hyfforddi am ddim sydd ar gael i chi, gan gynnwys cyrsiau sy’n edrych ar gadw cofnodion digidol.

Mae sawl ffordd o wella’ch sgiliau digidol. Does dim rhaid i bob gwers ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth – gallwch chi ddysgu wrth eich pwysau eich hun ac yn eich amser sbâr.

Beth os dyw meddalwedd ddim yn gweithio fel dylai hi fod?

Gwiriwch hyn â’ch darparwr meddalwedd cyn gynted â phosibl, gan fod pob meddalwedd yn gweithio ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Beth am Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)?

Os ydych chi’n gontractwr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, bydd yn dal i fod angen i chi anfon datganiadau CIS bob mis er mwyn cael didyniadau. Gallwch chi ddefnyddio meddalwedd sy’n delio â CIS a Throi Treth yn Ddigidol. Holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Ydych chi’n is-gontractwr? Pan fydd y system newydd yn dechrau, y cyfan y byddwch chi’n ei wneud yw cynnwys unrhyw ddidyniadau CIS yn eich diweddariadau chwarterol. Bydd rhai meddalwedd hyd yn oed yn prosesu didyniadau CIS i chi yn awtomatig – holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Dysgwch ragor am Gynllun y Diwydiant Adeiladu ar GOV.UK