Skip to main content
Radio sy'n robot gyda’r geiriau "mae treth yn newid" ar flaen y robot.

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Paratoi ar gyfer y ffordd newydd o ddelio â Ffurflenni Treth

Ydych chi’n gweithio i chi’ch hun fel unig fasnachwr neu’n ennill arian o eiddo?

Mae Ffurflenni Treth yn newid – trwy ffordd newydd o gofnodi ac adrodd am eich incwm a’ch treuliau. Yr enw ar hyn yw ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Weithiau, fe welwch chi’r byrfodd ‘MTD ar gyfer Treth Incwm’.

Rydyn ni’n ailstrwythuro’r ffordd rydych chi’n delio â Threth Incwm

A dweud y gwir, dyma’r newid mwyaf ers i CThEF lansio Hunanasesiad fwy na 30 mlynedd yn ôl.

Fyddwch chi ddim yn llenwi’ch Ffurflen Dreth i gyd ar unwaith

Yn lle hynny, fe fyddwch chi’n rhannu’r dasg ar hyd y flwyddyn.

Bydd angen i chi

Defnyddio meddalwedd gydnabyddedig

fel ap ar eich ffôn neu’ch gliniadur i gofnodi incwm a threuliau

Anfon diweddariadau chwarterol

at CThEF o’r feddalwedd hon

Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth


erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn

Bod yn barod mewn 3 cham

Sut mae’n gweithio?

Gwelwch drosolwg byr o sut bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid pethau

Manwerthwr hunangyflogedig sydd efallai angen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Pryd ydw i’n dechrau delio â threth yn y ffordd newydd?

Paratowch eich hun ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol a gwirio a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun o Ebrill 2026 ymlaen

Unig fasnachwr yn gweithio gydag offer llaw

Pa feddalwedd sydd ei hangen arna i?

Dysgwch am feddalwedd Troi Treth yn Ddigidol, gan gynnwys opsiynau sydd am ddim

Rhywun yn ymuno sy’n edrych ar ei ffôn gyda dogfennau papur a gallai fod angen meddalwedd ar gyfer MTD arnyn nhw

Pam mae cadw cofnodion yn y ffordd newydd yn beth da?

Dysgwch am fuddion defnyddio meddalwedd MTD i gofnodi’ch incwm a’ch treuliau

Masnachwr â chynnyrch sydd efallai angen defnyddio MTD

Dyddiadau mae angen i chi wybod amdanyn nhw

Gwelwch holl ddyddiadau dechrau a dyddiadau cau o ran MTD ar gyfer Treth Incwm ar gip

Ffotograffydd yn edrych i’r camera sydd efallai angen gwirio’r dyddiadau o ran MTD