Skip to main content

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Paratoi ar gyfer y ffordd newydd o ddelio â Ffurflenni Treth

Ydych chi’n gweithio i chi’ch hun fel unig fasnachwr neu’n ennill arian o eiddo?

Mae Ffurflenni Treth yn newid – trwy ffordd newydd o gofnodi ac adrodd am eich incwm a’ch treuliau. Yr enw ar hyn yw ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Weithiau, fe welwch chi’r byrfodd ‘MTD ar gyfer Treth Incwm’.

Rydyn ni’n ailstrwythuro’r ffordd rydych chi’n delio â Threth Incwm

A dweud y gwir, dyma’r newid mwyaf ers i CThEF lansio Hunanasesiad fwy na 30 mlynedd yn ôl.

Fyddwch chi ddim yn llenwi’ch Ffurflen Dreth i gyd ar unwaith

Yn lle hynny, fe fyddwch chi’n rhannu’r dasg ar hyd y flwyddyn.

Bydd angen i chi

Defnyddio meddalwedd gydnabyddedig

fel ap ar eich ffôn neu’ch gliniadur i gofnodi incwm a threuliau

Anfon diweddariadau
chwarterol

at CThEF o’r feddalwedd hon

Cyflwyno’ch
Ffurflen Dreth


erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn

Sut mae’n gweithio?

Gwelwch drosolwg byr o sut bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid pethau

Manwerthwr hunangyflogedig sydd efallai angen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Ydych chi’n gyfrifydd, asiant neu’n llyfrifwr?

Os oes gennych chi ganiatâd eich cleient, gallwch ch ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar ei ran.