Skip to main content

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Pam mae gwneud pethau yn y ffordd newydd yn beth da?

Rydyn ni’n deall – mae’n ymdrech ychwanegol ar y cychwyn cyntaf i ddechrau defnyddio meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol (MTD) er mwyn cadw cofnodion bob yn dipyn ac yn rheolaidd, a hynny wedi’i rannu ar hyd y flwyddyn os ydych chi’n unig fasnachwyr a landlordiaid.

Beth gewch chi am eich ymdrech?

Unwaith i chi ddod yn gyfarwydd â chofnodi incwm a threuliau fel hyn, mae yna sawl ffordd y gallech chi a’ch busnes gael budd o MTD ar gyfer Treth Incwm.

Gweld y diweddaraf am eich llif arian

Sy’n ddefnyddiol i waith cynllunio’r busnes

Dim rhagor o ymbalfalu am dderbynebau coll

Cofnodwch eich derbynebau wrth i chi fynd, yn lle gwneud hynny i gyd ar un tro

Gweld eich bil treth disgwyliedig, drwy gydol y flwyddyn

Hwyl fawr i unrhyw ganfyddiadau annisgwyl ym mis Ionawr

Gwneud tasgau o ran treth yn haws

Gall meddalwedd MTD gyfrifo anfonebau i chi

Cywiro unrhyw wall rydych chi’n sylwi arno wrth i chi fynd

Fel eich bod chi ddim yn gordalu nac yn tandalu treth

Fel gydag unrhyw newid mawr, bydd hi’n cymryd amser i ddod yn gyfarwydd â gwneud pethau’n wahanol

Rydyn ni’n deall y gallai fod angen dipyn o amser i ddod i arfer â chadw cofnodion yn y ffordd newydd. Ac rydyn ni’n deall y gallech chi fod yn gyfforddus gyda’r ffordd rydych chi’n rheoli eich trethi chi nawr.

Ond os gwnewch chi faddau i ni. Oherwydd bydd MTD ar gyfer Treth Incwm yn ei gwneud hi’n haws yn y pen draw.

Mae’n siŵr bod gennych chi ambell gwestiwn

Pam mae’r ffordd rydych chi’n delio â threth yn newid?

Mae’n rhan o nod Llywodraeth y DU i foderneiddio’r system dreth a chau’r bwlch treth – sef y gwahaniaeth rhwng y dreth ddylai fod wedi’i thalu a’r bobl sydd wedi talu mewn gwirionedd.

Beth os ydw i’n ennill arian o weithio i fi fy hun yn ogystal ag ennill arian o eiddo?

Cadwch gofnodion ar wahân ar gyfer y ddau. Byddwch chi’n anfon diweddariadau chwarterol ar wahân ar gyfer pob math o incwm.

Yna, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn Ffurflen Dreth ddiwedd blwyddyn.

Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wedi’i oedi o’r blaen – fydd hyn wir yn digwydd?

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eto ei bod hi’n ymrwymo i gyflawni’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Oes angen i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio hwn hefyd?

Nac oes. Ond efallai eich bod chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn barod os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Beth os ydw i’n bartner mewn busnes?

Does dim angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm at ddiben y bartneriaeth. Byddwch chi’n parhau i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Oes gennych chi incwm o hunangyflogaeth neu eiddo y tu hwnt i’r bartneriaeth hefyd? Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth newydd os yw’ch trosiant o’r ffynonellau hyn yn cyrraedd y trothwyon cymhwysol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu dyddiad cau?

Rydyn ni’n cyflwyno cosbau ar sail pwyntiau i wneud pethau’n deg. Os byddwch chi’n methu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, byddwch chi’n cael pwynt cosb. Os cewch chi ormod o bwyntiau, byddwch chi’n gorfod talu dirwy.

Mae nifer y pwyntiau yn dibynnu ar ba ddiweddariadau y mae disgwyl i chi eu hanfon at CThEF bob blwyddyn.

Rydw i’n defnyddio meddalwedd i gyflwyno fy Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn barod – ydw i’n gallu cadw defnyddio honno?

Efallai. Bydd angen i chi wirio â’ch darparwr meddalwedd i wneud yn siŵr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol.

Os dyw hi ddim am weithio, bydd angen i chi ddechrau defnyddio meddalwedd sydd yn gweithio.

Gallwch chi wirio bod y feddalwedd rydych chi’n ei defnyddio wedi’i chynnwys yn ein rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar GOV.UK

Ydw i’n gallu cael esemptiad?

Gallwch chi wneud cais am esemptiad os credwch chi eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhesymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol neu gyflwyno’r cofnodion hynny.

Mae yna wahanol resymau pam gallai hyn fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi, ond gallai fod oherwydd:

  • bod eich oedran, anabledd, cyflwr iechyd neu’ch lleoliad yn eich rhwystro chi rhag defnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar
  • eich bod chi’n aelod gweithredol o gymdeithas neu urdd grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â defnyddio cyfathrebiadau digidol neu gadw cofnodion digidol

Dysgwch a allwch chi wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Hefyd, mae yna fathau eraill o esemptiadau sydd wedi’u hesbonio yn ‘Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd dylech chi wneud hynny’.   

Oes gwir ots am y diweddariadau chwarterol – alla i ddim delio â phopeth yn y Ffurflen Dreth ddiwedd blwyddyn?

Mae CThEF yn disgwyl i bawb gymryd gofal rhesymol dros ei gofnodion digidol. Dylai’ch diweddariadau chwarterol, felly, gyd-fynd â’r incwm a’r treuliau ar gyfer pob cyfnod. Gallech chi gael cosb os dydych chi ddim yn cadw cofnodion digidol digonol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu rhywfaint o incwm a threuliau o’r diweddariad chwarterol – oes angen i fi ailanfon y diweddariad hwnnw?

Nac oes, peidiwch â phoeni. Gallwch chi ychwanegu’r wybodaeth goll at eich diweddariad chwarterol nesaf.

Ble galla i fynd er mwyn datblygu fy sgiliau digidol i fod yn barod am hyn?

Mae gan y Gwasanaethau Gyrfaoedd Cenedlaethol ganllaw am yr hyfforddi am ddim sydd ar gael i chi, gan gynnwys cyrsiau sy’n edrych ar gadw cofnodion digidol.

Mae sawl ffordd o wella’ch sgiliau digidol. Does dim rhaid i bob gwers ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth – gallwch chi ddysgu wrth eich pwysau eich hun ac yn eich amser sbâr.

Beth os dyw meddalwedd ddim yn gweithio fel dylai hi fod?

Gwiriwch hyn â’ch darparwr meddalwedd cyn gynted â phosibl, gan fod pob meddalwedd yn gweithio ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Beth am Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)?

Os ydych chi’n gontractwr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, bydd yn dal i fod angen i chi anfon datganiadau CIS bob mis er mwyn cael didyniadau. Gallwch chi ddefnyddio meddalwedd sy’n delio â CIS a Throi Treth yn Ddigidol. Holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Ydych chi’n is-gontractwr? Pan fydd y system newydd yn dechrau, y cyfan y byddwch chi’n ei wneud yw cynnwys unrhyw ddidyniadau CIS yn eich diweddariadau chwarterol. Bydd rhai meddalwedd hyd yn oed yn prosesu didyniadau CIS i chi yn awtomatig – holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Dysgwch ragor am Gynllun y Diwydiant Adeiladu ar GOV.UK