Beth y mae Troi Treth yn Ddigidol yn ei olygu i’ch busnes
Os gennych chi gleientiaid sy’n gweithio fel unig fasnachwyr neu landlordiaid sydd â thros £50,000 o drosiant cyfun yn 2024-25?
Bydd angen iddyn nhw, neu i chi fel asiant, ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu er mwyn gwneud y canlynol:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o dreuliau ac incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
- anfon diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno’r Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn bod yn barod
Sefydlu eich cyfrif gwasanaethau asiantau
Bydd angen i chi gael cyfrif gwasanaethau asiant ac awdurdodiad ar waith ar gyfer eich cleient. Gallwch chi drosglwyddo awdurdodiadau presennol neu gallwch greu awdurdodiad newydd.
Dewis meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD)
Dewch o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol sy’n cyd-fynd â’ch busnes ac sy’n rhoi cymorth i’ch cleientiaid gyda’u dewisiadau. Efallai y bydd rhai cleientiaid yn cael budd o ddefnyddio mwy nag un math o feddalwedd MTD.
Cofrestru cleientiaid
Paratoi’ch cleientiaid drwy gofrestru nawr. Bydd hyn yn eich helpu wrth ddod yn gyfarwydd â’r prosesau newydd cyn iddynt ddod yn ofynnol.
Help a chymorth
Gwiriwch ein pecyn cymorth i asiantau
Mae’r pecyn cymorth i asiant cysylltiad yn cynnwys adnoddau ac offer i’ch helpu i baratoi.
Cofrestru ar gyfer cymorth wedi’i deilwra
Gallwch chi nawr gael cymorth wedi’i deilwra i baratoi ar gyfer MTD. Yn syml, mynegwch eich diddordeb i gael mynediad at sesiynau rhyngweithiol gydag arbenigwyr MTD.
Rhoi gwybod i’ch cleientiaid am y diweddaraf
Siŵr o fod chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf, fel asiant, ar gyfer cwestiynau niferus gan gleientiaid.
Helpwch nhw i baratoi drwy rannu deunyddiau o Gweminarau a fideos CThEF a’r hyb adnoddau CThEF.
Mae’n siŵr bod gennych chi ambell gwestiwn
A allaf barhau i weithredu ar ran fy nghleientiaid gan ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol?
Wrth gwrs, gallwch chi barhau i gynrychioli’ch cleientiaid. Bydd angen Cyfrif Gwasanaethau Asiant a meddalwedd sy’n cydweddu arnoch.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng prif asiant ac asiant ategol?
Gall cleientiaid benodi un prif asiant a mwy nag un asiant ategol, yn dibynnu ar eu hanghenion. Mae CThEF yn caniatáu rolau hyblyg, gan gynnwys y canlynol:
- prif asiant – sy’n gallu delio â phopeth o ddiweddariadau chwarterol i lenwi’r Ffurflen Dreth a bwrw golwg dros gosbau
- asiant ategol – sy’n gallu canolbwyntio ar gadw cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol, ond mae ganddynt mynediad cyfyngedig na phrif asiant ac ni allant gyflwyno Ffurflen Dreth
Gall prif asiantau ac asiantau ategol gofrestru cleientiaid ar gyfer MTD.
Dewis asiantau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm – GOV.UK
Rydw i’n defnyddio meddalwedd i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad fy nghleient yn barod – ydw i’n gallu cadw defnyddio honno?
Gallwch chi wirio bod y feddalwedd rydych chi’n ei defnyddio wedi’i chynnwys yn y rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar GOV.UK
Beth sy’n digwydd os yw fy nghleient yn methu’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno?
Rydyn ni’n cyflwyno cosbau ar sail pwyntiau i wneud pethau’n deg. Os yw’ch cleient yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, bydd eich cleient yn cael pwynt cosb. Os mae’ch cleient yn cael gormod o bwyntiau, bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy.
Mae nifer y pwyntiau yn dibynnu ar ba gyflwyniadau y mae disgwyl iddynt eu hanfon at CThEF bob blwyddyn.
A all fy nghleient cael esemptiad?
Gall eich cleient wneud cais am esemptiad os ydynt wedi’i gau allan o’r byd digidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhesymol iddynt ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol neu gyflwyno’r cofnodion hynny. Fel ei asiant, gallwch chi wneud cais ar ei ran.
Mae yna wahanol resymau pam gallai hyn fod yn berthnasol, ond gallai fod oherwydd:
- ei oedran, anabledd, cyflwr iechyd neu’i leoliad yn ei rwystro rhag defnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar
- ei bod nhw’n aelod gweithredol o gymdeithas neu urdd grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â defnyddio cyfathrebiadau digidol neu gadw cofnodion digidol
Os ydych o’r farn y gall hyn fod yn berthnasol i’ch cleient, ac mae angen iddo ddefnyddio MTD o fis Ebrill 2026 ymlaen, dylech wneud cais ymhell o flaen llaw. Dysgwch a allwch chi wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Hefyd, mae yna fathau eraill o esemptiadau sydd wedi’u hesbonio yn ‘Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd dylech chi wneud hynny’.
Rhowch eich barn
Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.