Skip to main content

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Pryd i ddechrau defnyddio’r cynllun

Rydyn ni’n ei gyflwyno fesul cam

Dyma pryd mae angen i chi ddechrau defnyddio meddalwedd gydnabyddedig i gadw cofnodion os ydych chi’n gweithio i chi’ch hun fel unig fasnachwr neu’n ennill arian o eiddo. Fel hyn, gallwch chi baratoi eich hun ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol mewn da bryd.

6 Ebrill 2026 os yw’ch trosiant yn uwch na £50,000

6 Ebrill 2027 os yw’ch trosiant yn uwch na £30,000

6 Ebrill 2028 os yw’ch trosiant yn uwch nag £20,000

Bydd CThEF yn penderfynu ar eich dyddiad dechrau

Dim ond cyfanswm eich trosiant o hunangyflogaeth ac eiddo, wedi’i roi at ei gilydd ar eich Ffurflen Dreth ddiweddaraf, y byddwn ni’n ei ystyried.
Eich trosiant yw’r swm o arian rydych chi’n ei ennill cyn tynnu unrhyw dreuliau neu dalu treth. Weithiau, yr enw ar hyn yw ‘incwm gros’.

Oes gennych chi fathau eraill o incwm? Fyddwn ni ddim yn cynnwys y rheini. A dydyn nhw ddim yn cyfrannu at y symiau sydd i’w gweld uchod.

Beth os yw fy nhrosiant yn cyrraedd unrhyw un o’r symiau uchod?

Bydd CThEF yn cysylltu i roi gwybod i chi fod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol a chofrestru i ddefnyddio’r cynllun.

Fyddwn ni ddim yn eich cofrestru’n awtomatig, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud hyn mewn pryd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, bydd yn dal i fod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol yn y ffordd arferol

Mae hyn oherwydd fyddwch chi ddim wedi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.

Gallwch chi fewngofnodi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF. Bydd yn dal i fod angen i chi wneud hyn erbyn 31 Ionawr.

Meddyliwch am hwn fel cyfnod pontio i’r ffordd newydd o ddelio â phethau

Erbyn y mis Ionawr canlynol, byddwch chi’n gallu gwneud popeth yn syth o’ch meddalwedd. Bydd hyn yn gwneud pethau’n symlach yn y hir dymor.

Ydw i’n gallu cofrestru a defnyddio’r cynllun yn gynt?

Wrth gwrs. Os hoffech chi ddechrau defnyddio’r cynllun yn gynt, gallwch chi gofrestru’n wirfoddol ar GOV.UK – byddwn ni’n gofyn ambell gwestiwn i chi er mwyn gwirio bod popeth yn ei le gennych chi.

Dim ond newydd ddechrau gweithio i fi fy hun neu roi eiddo ar osod ydw i – oes angen i fi wneud hyn?

Ddim yn syth. Yn gyntaf, byddwch chi’n gwneud un Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Wedyn, bydd CThEF yn gwirio’ch trosiant. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd angen i chi gofrestru.

Paratowch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol heddiw

Felly, mae gennych chi bopeth yn ei le i ddechrau defnyddio’r system newydd mewn da bryd. Fel hyn, gallwch chi osgoi unrhyw gosbau.

Mae’n siŵr bod gennych chi ambell gwestiwn

Pam mae’r ffordd rydych chi’n delio â threth yn newid?

Mae’n rhan o nod Llywodraeth y DU i foderneiddio’r system dreth a chau’r bwlch treth – sef y gwahaniaeth rhwng y dreth ddylai fod wedi’i thalu a’r bobl sydd wedi talu mewn gwirionedd.

Beth os ydw i’n ennill arian o weithio i fi fy hun yn ogystal ag ennill arian o eiddo?

Cadwch gofnodion ar wahân ar gyfer y ddau. Byddwch chi’n anfon diweddariadau chwarterol ar wahân ar gyfer pob math o incwm.

Yna, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn Ffurflen Dreth ddiwedd blwyddyn.

Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wedi’i oedi o’r blaen – fydd hyn wir yn digwydd?

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eto ei bod hi’n ymrwymo i gyflawni’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Oes angen i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio hwn hefyd? 

Nac oes. Ond efallai eich bod chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn barod os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Beth os ydw i’n bartner mewn busnes?

Does dim angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm at ddiben y bartneriaeth. Byddwch chi’n parhau i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Oes gennych chi incwm o hunangyflogaeth neu eiddo y tu hwnt i’r bartneriaeth hefyd? Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth newydd os yw’ch trosiant o’r ffynonellau hyn yn cyrraedd y trothwyon cymhwysol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu dyddiad cau?

Rydyn ni’n cyflwyno cosbau ar sail pwyntiau i wneud pethau’n deg. Os byddwch chi’n methu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, byddwch chi’n cael pwynt cosb. Os cewch chi ormod o bwyntiau, byddwch chi’n gorfod talu dirwy.

Mae nifer y pwyntiau yn dibynnu ar ba ddiweddariadau y mae disgwyl i chi eu hanfon at CThEF bob blwyddyn.

Rydw i’n defnyddio meddalwedd i gyflwyno fy Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn barod – ydw i’n gallu cadw defnyddio honno?

Efallai. Bydd angen i chi wirio â’ch darparwr meddalwedd i wneud yn siŵr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol.

Os dyw hi ddim am weithio, bydd angen i chi ddechrau defnyddio meddalwedd sydd yn gweithio.

Gallwch chi wirio bod y feddalwedd rydych chi’n ei defnyddio wedi’i chynnwys yn ein rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar GOV.UK

Ydw i’n gallu cael esemptiad?

Gallwch chi wneud cais am esemptiad os credwch chi eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhesymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol neu gyflwyno’r cofnodion hynny.

Mae yna wahanol resymau pam gallai hyn fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi, ond gallai fod oherwydd:

  • bod eich oedran, anabledd, cyflwr iechyd neu’ch lleoliad yn eich rhwystro chi rhag defnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar
  • eich bod chi’n aelod gweithredol o gymdeithas neu urdd grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â defnyddio cyfathrebiadau digidol neu gadw cofnodion digidol

Dysgwch a allwch chi wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Hefyd, mae yna fathau eraill o esemptiadau sydd wedi’u hesbonio yn ‘Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd dylech chi wneud hynny’.   

Oes gwir ots am y diweddariadau chwarterol – alla i ddim delio â phopeth yn y Ffurflen Dreth ddiwedd blwyddyn?

Mae CThEF yn disgwyl i bawb gymryd gofal rhesymol dros ei gofnodion digidol. Dylai’ch diweddariadau chwarterol, felly, gyd-fynd â’r incwm a’r treuliau ar gyfer pob cyfnod. Gallech chi gael cosb os dydych chi ddim yn cadw cofnodion digidol digonol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu rhywfaint o incwm a threuliau o’r diweddariad chwarterol – oes angen i fi ailanfon y diweddariad hwnnw?

Nac oes, peidiwch â phoeni. Gallwch chi ychwanegu’r wybodaeth goll at eich diweddariad chwarterol nesaf.

Ble galla i fynd er mwyn datblygu fy sgiliau digidol i fod yn barod am hyn?

Mae gan y Gwasanaethau Gyrfaoedd Cenedlaethol ganllaw am yr hyfforddi am ddim sydd ar gael i chi, gan gynnwys cyrsiau sy’n edrych ar gadw cofnodion digidol.

Mae sawl ffordd o wella’ch sgiliau digidol. Does dim rhaid i bob gwers ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth – gallwch chi ddysgu wrth eich pwysau eich hun ac yn eich amser sbâr.

Beth os dyw meddalwedd ddim yn gweithio fel dylai hi fod?

Gwiriwch hyn â’ch darparwr meddalwedd cyn gynted â phosibl, gan fod pob meddalwedd yn gweithio ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Beth am Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)?

Os ydych chi’n gontractwr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, bydd yn dal i fod angen i chi anfon datganiadau CIS bob mis er mwyn cael didyniadau. Gallwch chi ddefnyddio meddalwedd sy’n delio â CIS a Throi Treth yn Ddigidol. Holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Ydych chi’n is-gontractwr? Pan fydd y system newydd yn dechrau, y cyfan y byddwch chi’n ei wneud yw cynnwys unrhyw ddidyniadau CIS yn eich diweddariadau chwarterol. Bydd rhai meddalwedd hyd yn oed yn prosesu didyniadau CIS i chi yn awtomatig – holwch eich darparwr meddalwedd am hyn.

Dysgwch ragor am Gynllun y Diwydiant Adeiladu ar GOV.UK

Rhowch eich barn

Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.